Canllaw – Mynediad i Recordiadau
Mae gan y platfform y gallu i recordio sesiynau, ac mae recordiadau ar gael i asiantau/clinigwyr sydd â'r caniatâd cywir.
Mae modd cael mynediad at recordiadau o'r porth gweinyddol. Ar ôl mewngofnodi i'r adran weinyddol, dewiswch 'Recordiadau Ystafell' o'r ddewislen ar y chwith.

Rhestrir recordiadau gyda'r dyddiad a'r amser y cawsant eu gwneud.

I lawrlwytho recordiad, cliciwch y tri dot ar ochr dde'r cofnod perthnasol a dewiswch 'Lawrlwytho Recordiad'.

Yn ddiofyn, cedwir recordiadau am 30 diwrnod cyn cael eu dileu'n awtomatig.