Canllaw - Dolenni i Llwytho Dogfennau i Fyny
Mae'r platfform yn cynnig nifer o nodweddion ar gyfer cynorthwyo eich galwyr/cleifion ar ôl i alwad ddod i ben. Gall asiant/clinigwr neu weinyddwr adran ychwanegu dolen at ddogfennau i'w lawrlwytho neu dudalen we i ymweld â hi ar ôl galwad.
I uwchlwytho dolen dogfen, o'r tab Ystafelloedd Aros, dewch o hyd i'r ystafell rydych chi am ei diweddaru a chliciwch ar yr eicon pensil (golygu), yna dewiswch y tab Dogfennau o'r blwch ar y dde.

Pan ofynnir i chi, dewiswch Ie i alluogi dolenni dogfennau, yna cliciwch ar 'Ychwanegu Dolen Ffeil Newydd'.
Rhowch enw arddangos syml (e.e. "Ffurflen Adborth") ac URL y ddogfen neu'r dudalen we a chliciwch ar gadw ar waelod y dudalen.

Unwaith y bydd yr alwad wedi'i chwblhau, bydd y dolenni hyn yn ymddangos i'r galwr/claf o dan 'Dogfennau Ategol'.

Nodyn: os yw ailgyfeirio ôl-alwad personol wedi'i sefydlu, ni fydd dolenni dogfennau yn cael eu harddangos gan fod y galwr/claf yn cael ei ailgyfeirio'n awtomatig unwaith y bydd yr alwad yn dod i ben.